Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 14 Hydref 2015

Amser y cyfarfod: 13.30
 


(291)v3

<AI1>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei benderfyniad i ddiswyddo cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan Ewrop ar gyfer 2014-2020? EAQ(4)2513(FM)

 

</AI3>

<AI4>

3       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru - Tlodi ac Anghydraddoldeb

(60 munud)

NDM5842 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Dlodi yng Nghymru: tlodi ac anghydraddoldeb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI4>

<AI5>

4       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

(60 munud)

NDM5832

 

Mick Antoniw (Pontypridd) R

 

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; a

 

2. Yn credu:

 

a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;

 

b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a

 

c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Y Bil Undebau Llafur (Saesneg yn unig)

 

Deddf Hawliau Dynol 1998 (Saesneg yn unig)

 

Confensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (Saesneg yn unig)

 

Cefnogir gan:

 

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

David Rees (Aberafan)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Gwenda Thomas (Castell-nedd)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jeff Cuthbert (Caerffili)

Lynne Neagle (Torfaen)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Keith Davies (Llanelli)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Sandy Mewies (Delyn)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM5843 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru yn ddiweddar.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda banciau manwerthu mawr i annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a sicrhau presenoldeb bancio lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

 

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n cynnig cyllid mwy hygyrch ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd ffermydd Cymru.

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud yn gynnar.

</AI6>

<AI7>

6       Cyfnod pleidleisio

 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Fer

(30 munud)

NDM5844 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Diogelu cleifion yn Sir Benfro - pam mae angen gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>